Ydych chi yn chwilio am rhywle diddos ar gyfer achlysur arbennig, bwffet syml i griw o ffrindiau neu gyd-weithwyr neu wledd fawreddog i 250 o wahoddedigion? Dyma’r lleoliad i’ch digwyddiad!
Gallwch gyrraedd y lleoliad ar gwch, cael hoi o ddiwrnod o gynhadleddau gydag awr neu ddwy ar y dwr, neu gadw’ch traed yn sych a rhyfeddu ar brydferthwch Bae Ceredigion gydag Eryri yn gefnlen on teras anhygoel.
Cynhadleddau, arddangosfeydd, cyfarfodydd, digwyddiadau chwaraeon, partion, cyngherddau, priodasau, digwyddiadau cymunedol. Dyddiau adeiladu tîm – beth bynnag fo’ch digwyddiad mae gennym ni leoliad hyblyg sy’n berffaith ar eich cyfer.