Byddwch yn mynd drwy ardal y dderbynfa sydd ger y swyddfeydd gweinyddol i gael mynediad i’r Llawr Gwaelod.
Prif neuadd ddigwyddiadau yn ymestyn371m2. Mae hwn yn ofod amlbwrpas y gellir ei ddefnyddio ar gyfer arddangosfeydd, cyngherddau ac mae drws llydan uchel fel y gellir dod ag eitemau mawr i mewn yn cynnwys cychod ar gyfer eu mesur, eu harchwilio ayb. Gellir defnyddio’r ystafell hon ar gyfer ciniawa, gwledda ac fel cantîn i fwydo llawer o bobl. Uwchben y brif neuadd mae balconi/oriel sy’n ddelfrydol i arsylwi ar weithgareddau yn y neuadd neu'n fan gwych i wneud cyflwyniad i gynulleidfa yn y neuadd.
Tair ystafell hyfforddi a phob un yn mesur 50m2 gyda mynediad i’r brif neuadd neu i’r tu allan. Mae’r ystafelloedd hyn yn addas ar gyfer cyfarfodydd priefat a chynadleddau, canolfannu cyfathrebu/gweithredu, ar gyfer addysgu a dibenion addysgol.
Pedair ystafell newid fawr ac ystafell gawod yn gallu cael eu defynyddio ar y cyd neu ar wahân yn ôl yr hyn y mae’r defnyddiwr ei angen.
Y cyfleusterau eraill ar y llawr gwaelod at ddefnydd Plas Heli ydy’r swyddfeydd, y gegin/storfa a’r seler.
English (UK) 














Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT