Croeso Cynnes i Wirfoddolwyr Digwyddiadau i Plas Heli.
Gall cymryd rhan mewn digwyddiad, ar y dŵr neu ar y lan, fod yn werth chweil a phleserus cysylltwch â ni os hoffech ymuno â’n tîm gwirfoddolwyr.
Mae Plas Heli a Chlwb Hwylio Pwllheli yn falch iawn o’u record o gynnal digwyddiadau hwylio ym Mhwllheli ers y 1960au.
Mae’r digwyddiadau yma wedi bod o’r safon uchaf ac wedi cynnal yn nyfroedd hwylio Bae Ceredigion sydd wedi cael canmoliaeth trwy'r Byd am fod amodau hwylio bron yn berffaith gyda diffyg llongau masnachol, dim llif llanw cryf a gwynt cryf ‘glân’ o’r de-orllewin. Mae'r arena rasio ychydig funudau o'r harbwr diogel, marina'r Hafan neu o angorfeydd pontŵn Plas Heli.
Y rhinweddau gwych yma, a’r gwirfoddolwyr, sy’n gwneud y broses o drefnu digwyddiadau gymaint yn haws ac yn rhoi’r potensial i’r rasio fod y gorau yn y DU!
Ers 2015 mae cynnal digwyddiadau ym Mhwllheli wedi’i drosglwyddo i Blas Heli, y cwmni sydd yn gyfrifol am weithredu Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Ddigwyddiadau, sef Prif Ganolfan Digwyddiadau Hwylio yng Nghymru. Menter Gymunedol a chwmni dielw yw Plas Heli, lle mae'r holl wargedion yn cael eu hail-fuddsoddi yn y cyfleusterau.
Mae’r digwyddiadau ym Mhlas Heli yn drawiadol bob blwyddyn ac eto rydym yn galw am eich cefnogaeth drwy wirfoddoli.
Mae angen gwirfoddolwyr ar gyfer yr holl waith sydd ynghlwm wrth gynnal y digwyddiadau hwylio hyn. Bydd y tasgau a’r dyletswyddau’n cynnwys y canlynol:
- Criw i cychod diogelwch
- Cynorthwywyr cychod trefnwyr a mam-gwch
- Cynorthwywr ar y lan a chymorth Swyddfa
- Rheolwyr ar y traeth
- Dyletswyddau traffig
Byddem yn falch iawn o glywed gan unrhyw un a allai roi cymorth, mewn unrhyw ffordd, yn ystod y digwyddiadau. Gall y gefnogaeth hon fod ar gyfer Pencampwriaeth diwrnod, penwythnos neu wythnos gyfan.
Nid yw profiad a chymwysterau yn hanfodol gan y gallwn ddarparu'r hyfforddiant angenrheidiol. Bydd cyrsiau hyfforddi yn cael eu trefnu a gellir anfon datganiadau o ddiddordeb yn y cyrsiau hyn i flag.officers@pwllhelisailingclub.co.uk neu i post@plasheli.org
Cysylltwch â ni os hoffech gofrestru fel gwirfoddolwr..
Mae digwyddiadau Plas Heli yn debydu ar wirfoddolwyr er mwyn rhedeg yn esmwyth. A hoffech chi ymuno â ni?
Mae y gwirfoddolwr yn derbyn rhodd fel arwydd o gwerthfawrogiad.
Rydym hefyd yn hapus i lofnodi Ffurflenni Gwirfoddolwyr y Mileniwm neu unrhyw gyfeiriadau eraill.