Mae Pwllheli yn dref marchnad glan y môr fywiog sy’n croesawu ymwelwyr i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn.
Yn y dref ei hun mae nifer o’r hen dafarndai cartrefol yn cynnig rhywle i aros, mae yna dai brecwast a gwely teulol o gwmpas y Llŷn neu gellir dewis o’r nifer o gyfleusterau hunan arlwyo.
Neu efallai y byddai’n well gennych chi ddianc i fwthyn heddychlon ymhell o bob ma ble, ar ddiwedd y dydd, gallwch eitedd gyda llyfr yn gwylio’r haul yn machludi Fôr Iwerddon?
Neu a fyddai’n well gennych chi a’ch teulu i aros yn rhyddid un o’r gwersylloedd neu’r meysydd carafannau ble gall y plant grwydro’n ddiogel?
Neu efallai nad ydych yn hoff o ddistawrwydd cefn gwlad ac y byddai un o’r cadwyn o westai mewn tref gyfagos yn fwy at eich dant?