Calon Hwylio Cymru
Mewn ychydig o eiliadau fe allwch chi fod ar eich ffordd ar wyliau hwylio i ogledd Cymru!
Mae Pwllheli o fewn cyrraedd diwrnod o hwylio i nifer o gyrchfanau megis Bae Dulyn, arfordir dwyreiniol Iwerddon, Ynys Manaw, gogledd a de orllewin Lloegr yn ogystal â de Cymru.
Pam ddim teithio ar draws Môr Iwerddon wrth eich pwysau, angori ar ein pontwn i ymwelwyr cyn crwydro o amgylch yr ardal yma o harddwch eithriadol ac Eryri gyfan?
Hwylio o’r Alban i arfordir y de neu Fôr y Canoldir? Angorwch ym Mhwllheli am noson, ewch am dro, ymlaciwch.
Pellteroedd
Bae Dulyn 75NM
Greystones 65NM
Arclow 65NM
Lerpwl 100NM
Carlingford 95NM
Bae Douglas 95NM
Whitehaven 135NM
Aberdaugleddau 90NM
Ynys Wyth 330NM
Angori ym Mhwllheli
Mae gan Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau Plas Heli pontoons newydd i ymwelwyr. Gallwch archebu lle ar y pontwn ar gyfer arhosiad o 1 noson hyd at 90 noson trwy glicio yma.
Mae gan Hafan, y marina ym Mhwllheli, sydd y drws nesaf i Blas Heli, hefyd angorfeydd tymor byr ar gael gyda thrydan a dwr yfed. I archebu lle cysylltwch â’r Hafan yn uniongyrchol: (01758) 701 219 neu trwy glicio yma.
Cyfleusterau ar y safle
- Mynediad ble bynnag fo’r llanw
- Toiledau, cawodydd a golchfa ar agor 24 awr
- Camerau CCTV yn diogelu’r marina i gyd
- Giat electroneg ar ben y bont
- O fewn 1km (10 – 20 munud o gerdded) o ganol y dref
- Cyfleusterau diesel a gwastraff ar y dwr
- Cyfleusterau ailgylchu
- Iardau cychod a siopau cychod ar y safle
- Craen 50 tunnell
RHESTR O'R IARDAU CYCHOD A'R SIOPAU YN DOD YN FUAN