×

Hysbysiad

Folder doesn't exist or doesn't contain any images

Plas Heli

Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau

You have landed on the Welsh pages of the web site to switch to English click the flag.

NVW C23 1112 0093 1024px

Beth hoffech chi wneud gyda’ch amser?

 

Mynd i’r traeth

O draethau teuluol gyda’r holl gyfleusterau, i’r traeth delfrydol i adeiladu cestyll a chwilio am grancod, i’r traeth gyda’r don berffaith neu’r traeth anghysbell i synfyfyrio’r pnawn gyda llyfr, mae yna draeth yn Llŷn i bawb.                              

 

Mynd am Dro


SVW C24 1112 0269 1024px

Ar hyd yr Arfordir

Defnyddiwch ran o 84 milltir Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Llŷn i ymlwybro o amgylch y clogwyni a’r cildraethau lleol.  Mae’r llwybr yn dilyn llwybrau cyhoeddus, ffyrdd bach gwledig a thraethau o Gaernarfon ar hyd arfordir gogleddol y penrhyn i Aberdaron cyn dilyn yr arfordir ddeheuol i Borthmadog gan fynd heibio Plas Heli a Marina Hafan Pwllheli ar ei ffordd.  Dewisiwch lwybr cylchol byr, cerddwch am ddiwrnod neu beth am gymryd ychydig o ddyddiau i gerdded yr holl ffordd o amgylch Llŷn?

 

Gwefan Llwybr Arfordir Cymru                                         Gwefan Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol

 

 

Yn Eryri


N112 497 1024px

Gyda throed yr Wyddfa yn ddim ond 19 milltir i ffwrdd pam ddim lleoli’ch hun yn Llŷn wrth grwydro Eryri?  Mae rhywbeth i bawb yn Eryri - gallwch fynd am dro’n hamddenol neu ddringo clogwyni serth.  Dringwch i’r copa uchaf yng Nghymru a Lloegr (sy’n gwbl addas i deuluoedd) neu beth am sialens y 15 copa – dringo i ben 15 mynydd Eryri sydd dros 3,000 troedfedd o uchder ofewn 24 awr!!

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am lwybrau yn Eryri:

Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri                                   

Ymweld ag Eryri

 

Llwybrau Lleol yn Llŷn

Hyd yn oed os mai dim ond awr neu ddwy sydd gennych chi i’w lenwi mae digon o lwybrau i’ch denu allan i droedi tirwedd brydferth Llŷn a darganfod hanes lleol.  Yn ogystal â bod yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) mae llawer o Lŷn ar Gofrestr Tirweddau Hanesyddol Cymru.

Ceir mwy o wybodaeth am lwybrau byrion a lleol yn Llŷn ar y gwefannau isod:

Gwefan AHNE                  Ymddiriedolaeth Genedlaethol (yn Saesneg)                         Gwefan Llyn Info (yn Saesneg)                               Gwefan Gymunedol Rhiw

 

Dolenni Cyflym Tudalennau Cyfleusterau Plas Heli

| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill  | Bar ac Arlwyo |

Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw


 

Gwybodaeth Cyswllt

At Phone Sign Meaning Contact Web And MobilePlas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Arlwyo a Bar:       01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).

Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.

Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .

Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Cwmni Cofrestredig.  Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430