Cliciwch ar y llun am fersiwn pdf o'r cynllun.
Os hoffech chi rentu gofod ym Mhlas Heli ar gyfer digwyddiad preifat neu gyhoeddus cliciwch yma (ymddiheurwn fod y ffurflen yn Saesneg ar hyn o bryd)
Byddwch yn mynd drwy ardal y dderbynfa sydd ger y swyddfeydd gweinyddol i gael mynediad i’r Llawr Gwaelod.
Prif neuadd ddigwyddiadau yn ymestyn371m2. Mae hwn yn ofod amlbwrpas y gellir ei ddefnyddio ar gyfer arddangosfeydd, cyngherddau ac mae drws llydan uchel fel y gellir dod ag eitemau mawr i mewn yn cynnwys cychod ar gyfer eu mesur, eu harchwilio ayb. Gellir defnyddio’r ystafell hon ar gyfer ciniawa, gwledda ac fel cantîn i fwydo llawer o bobl. Uwchben y brif neuadd mae balconi/oriel sy’n ddelfrydol i arsylwi ar weithgareddau yn y neuadd neu'n fan gwych i wneud cyflwyniad i gynulleidfa yn y neuadd.
Tair ystafell hyfforddi a phob un yn mesur 50m2 gyda mynediad i’r brif neuadd neu i’r tu allan. Mae’r ystafelloedd hyn yn addas ar gyfer cyfarfodydd priefat a chynadleddau, canolfannu cyfathrebu/gweithredu, ar gyfer addysgu a dibenion addysgol.
Pedair ystafell newid fawr ac ystafell gawod yn gallu cael eu defynyddio ar y cyd neu ar wahân yn ôl yr hyn y mae’r defnyddiwr ei angen.
Y cyfleusterau eraill ar y llawr gwaelod at ddefnydd Plas Heli ydy’r swyddfeydd, y gegin/storfa a’r seler.
Mae’r bwyty, y bar a’r caffi ar y llawr cyntaf yn 185 m2 ac ar gael i at ddefnydd pawb.
Mae’r bar a’r caffi yn agor allan ar falconi mawr (300 m2) sydd â golygfeydd gwych dros y môr a mynyddoedd Eryri a Chanolbarth Cymru.
Ystafell Y Clwb Hwylio - at ddefnydd aelodau’r clwb a’u gwesteion, hwylwyr ar ymweliad a hwylwyr ar wahoddiad y Prif Swyddogion. Bydd gan y clwb hwylio ei reolau a’i reoliadau ei hun a rhaid cadw at y rhain bob amser.
Mae’r ystafelloedd uchod yn agor allan ar falconi mawr mewnol yn edrych dros Y Brif Neuadd.
Mae’r Balconi ar yr ail lawr yn 194 m2 ac mae’n darparu man rhagorol i weld y golygfeydd gwych o gwmpas. I gyrraedd y balconi hwn, gellir defnyddio lifft, grisiau allanol neu’r grisiau teras enfawr/ardal yr eisteddle o’r balconi ar y llawr cyntaf. Mae’r gofod hwn ar gael ar gyfer achlysuron preifat a phartïon.
Y Bont – mae’r bont ar gyfer swyddogion diogelwch a rheolwyr ras a cheir mynediad ato o’r balconi ar yr ail lawr. 
| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill | Bar ac Arlwyo |
Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw
Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT
Arlwyo a Bar: 01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).
Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.
Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .
Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT
Cwmni Cofrestredig. Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430