×

Hysbysiad

Folder doesn't exist or doesn't contain any images

Plas Heli

Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau

You have landed on the Welsh pages of the web site to switch to English click the flag.

 

Gweithio gyda ysgolion a'r cynllyn addysg gorfforol/PESS. Hwyluswyd cyfleoedd i ddisgyblion ysgolion cynradd lleol dderbyn hyfforddiant ar ffurf diwrnod blasu Hwylio yn y Clwb Hwylio Pwllheli yn ystod tymor yr Haf.

 

 

 

Cafwyd ymateb gwych gan yr ysgolion a’r plant i’r cyfle yma (gweler yr ystadegau dilynol) sy’n sicr wedi atgyfnerthu pwysigrwydd profiadau tro cyntaf a dangos potensial i ddarparu cyfleoedd chwaraeon tu hwnt i'r ysgol gynradd. “Rhaglen yn benodol ar gyfer Hwylio, ac i pob ysgol y dalgylch. Prin iawn oedd profiad mwyafrif o ddisgyblion i’r weithgaredd, ac roedd cyflwyno adnoddau a chyfleusterau’r ganolfan yn agoriad llygaid i athrawon yn ogystal â disgyblion. Mae’r diwrnod blasu wedi agor drysau i nifer o ddisgyblion ac wedi gwneud i ysgolion sylweddoli bod hwn yn ganolfan i’r gymuned gyfan. Mae’n bwysig bod y fenter yma yn gynaliadwy, ac felly roedd cyflwyniad y swyddog i wahanol glybiau yn hanfodol, h.y. Hwylio, canŵio, Caiacio, syrffio.” Bryn Williams, Rheolwr AGCHY / PESS Mae’r ystadegau canlynol yn dangos nifer o ddefnyddwyr newydd sydd wedi eu denu i weithgareddau awyr agored a thrwy’r profiad yma wedi gwella dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o’r treftadaeth amgylcheddol lleol. Ffilm arall ar gael yn wefan Plasheli.org sydd yn dilyn y diwrnodau blasu yn Clwb Hwylio Pwllheli. Mae tystiolaeth clir o fewn y ffilm fod y diwrnodau blasu YN GWNEUD GWAHANIAETH gyda defnyddwyr newydd yn blasu a wedyn ymaelodi gyda’r clybiau a mynd ymlaen i gystadlu. “Dim ond nodyn byr i ddiolch yn fawr iawn i chi am ddoe. Roedd y plant wedi
cael amser ffantastig! Mae amryw ohonynt wedi son eu bod yn awyddus i
gychwyn hwylio ym mis medi”

Diolch eto,Annwen Hughes, Pennaeth Ysgol Abererch

 

Dolenni Cyflym Tudalennau Cyfleusterau Plas Heli

| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill  | Bar ac Arlwyo |

Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw


 

Gwybodaeth Cyswllt

At Phone Sign Meaning Contact Web And MobilePlas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Arlwyo a Bar:       01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).

Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.

Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .

Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Cwmni Cofrestredig.  Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430