
Dewch i drio ceufadu, rhwyfo, canwio, hwylio a mwynhau!
Mae Hwyl yr Heli yn gyfle i drigolion Pwllheli a Phen Llyn ddod i fwynhau yr hyn sydd gan Plas Heli ei gynnig.
Bydd cyfle i drio gwahanol chwaraeon dwr dan hyfforddiant y Grwp Awyr Agored. Trwy gydol y dydd bydd 4 sesiwn ar gyfer pob disgyblaeth (hwylio, ceufadu, rhwyfo a bwrdd padlo). Bydd y sesiynau yn derbyn nifer gyfyngedig yn unig felly y cyntaf i'r felin fydd hi gyda chofrestru yn dechrau am 9.30yb. Mae'r sesiynau yn agored i bawb o 8 oed i fyny.
I'r rhai sydd eisiau cadw eu traed ar dir sych mae gan Hwyl yr Heli ddigon i'ch diddannu:
Stondinau gan fusnesau lleol
- Stondinau gan fasnachwyr morwrol
- Bwyd a diod
- Adloniant byw - mwy o wybodaeth i ddilyn
- Sioe Cei Bach, Cyw (am 11 a 2)
- Castell neidio
- Wal ddringo
- Paentio wynebau
- Gwybodaeth am ddatblygiad Plas Heli - yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Digwyddiadau
- Arddangosfa gychod
- Ras rwyfo
- Hwyl ar y traeth - gemau a gweithgareddau ar draeth Glan y Don
- a llawer llawer mwy!
Mwy o wybodaeth i ddilyn yn fuan.
English (UK) 












Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT