- Plas Heli -

Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau
Prif Ganolfan Digwyddiad Hwylio yng Nghymru
Cyfleuster Cymunedol

You have landed on the Welsh pages of the web site to switch to English click the flag.

-----------------------------------------

Mae gwaith adeiladu wedi cychwyn ar gynllun £4 miliwn i ddatblygu adeilad Academi Hwylio Pwllheli a fydd yn cwblhau’r pecyn o fuddsoddiadau cyfalaf yn ardal harbwr y dref. DSC 5980

Mae’r dywarchen gyntaf wedi ei thorri ar safle Academi Hwylio Genedlaethol Cymru ym Mhenrhyn Glan Don, Pwllheli. Bydd yr adeilad yn rhan allweddol o’r pecyn £8.3 miliwn a ddiogelwyd gan Gyngor Gwynedd i gryfhau’r diwydiant morol a hwylio yn lleol.

Mae cynllun yr Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau wedi ei gydariannu drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd. 

Bydd yr adeilad eiconig hwn yn ganolfan i gynnal digwyddiadau a chystadleuthau hwylio gyda’r gorau yn y byd. Bydd hefyd yn adnodd canolog i’r gymuned leol ac i’r diwydiant awyr agored ym Mhwllheli a’r ardal gyfagos.

Y cwmni o ogled Cymru, Wynne Construction sydd wedi ennill y gytundeb i gyflawni’r gwaith ac mae disgwyl y bydd adeilad yr Academi yn agor ei drysau yn haf 2015.

Dywedodd y Cynghorydd John Wynn Jones, Aelod Cabinet dros yr Economi ar Gyngor Gwynedd: 

“Fel Cyngor, rydym yn ymfalchio yn y cynnig sydd gan Bwllheli ar gyfer y sector hamdden ac awyr agored ac yn gweld fod gan y Academi Hwylio Genedlaethol le hanfodol i gryfhau’r diwydiant hwn er budd yr economi a’r gymuned yn lleol.

“Bydd adeilad yr Academi yn adnodd gwerthfawr i’r gymuned leol – fel canolfan i’r gymuned ei ddefnyddio ac hefyd gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf a fydd o fudd i drigolion lleol ac ymwelwyr i’r ardal.”

Ychwanegodd Stephen Tudor, Cadeirydd Plas Heli Cyf, sef y corff gwirfoddol sydd wedi ei sefydlu i reoli’r adnodd:

“Mae hon yn garreg filltir bwysig iawn ac fe welwn flynddoedd o waith yn cael eu gwireddu yma. Mae’r cynllun yn un cyffrous i ddyfodol Pwllheli.

“Yn dilyn misoedd o waith datblygu ac ymgynghori mae’r pecyn o waith sydd ynghlwm a’r cynllun bellach yn ei le, gyda gwaith sylweddol o garthu’r harbwr a gosod angorfeydd newydd eisoes wedi eu gwneud oddi mewn yr harbwr.”

 

 

Up Coming Events - Cafe Bar

No events found

Dolenni Cyflym Tudalennau Cyfleusterau Plas Heli

| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill  | Bar ac Arlwyo |

Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw


 

At Phone Sign Meaning Contact Web And MobilePlas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Arlwyo a Bar:       01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).

Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.

Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .

Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Cwmni Cofrestredig.  Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430