- Plas Heli -

Academi Hwylio Genedlaethol a Chanolfan Ddigwyddiadau
Prif Ganolfan Digwyddiad Hwylio yng Nghymru
Cyfleuster Cymunedol

You have landed on the Welsh pages of the web site to switch to English click the flag.

-----------------------------------------

Mae cyd-sylfaenydd creision 'Jones o Gymru' o Bwllheli yn annog cymuned fusnes Gogledd Cymru i helpu i adael “gwaddol” ar ôl iddyn nhw fod y cwmni lleol cyntaf i arwyddo’n bartner swyddogol i Bencampwriaethau cychod Hwylio Optimist Ewrop ym Mhwllheli.
Bydd tua 250 o hwylwyr ifanc gorau’r Byd o dros 45 o wledydd yn cystadlu yn yr achlysur cyntaf i’w gynnal yng Nghanolfan newydd Academi Hwylio Cenedlaethol a Digwyddiadau Plas Heli rhwng Gorffennaf 17 a 24.
Ac mae Geraint Hughes yn credu ei bod yn ddyletswydd ar fusnesau lleol i helpu sicrhau bod y bobl ifanc yn dychwelyd adre yn fwy ymwybodol o’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru ac yn rhyfeddu mor lwcus ydy pobl Pwllheli a’r cyffiniau eu bod yn byw mewn lle cyfoethog ei dreftadaeth ac mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol.  
Bydd creision 'Jones o Gymru', sy’n defnyddio tatws wedi eu tyfu yng Nghymru a’u halltu â Halen Môn yn darparu pecynnau bwyd ar gyfer y 110 o wirfoddolwyr a fydd yn gweithio yn ystod y pum diwrnod o rasio ym mae Ceredigion, gyda thua 40% o’r rhai a fydd yn gweithio yn y digwyddiad yn dod o’r ardal leol.
Mae Geraint nawr am i fusnesau lleol eraill fanteisio ar “fraint” Pwllheli i groesawu dwsinau o wledydd a channoedd o gystadleuwyr i ddigwyddiadau mawr.
Dywedodd: “Mae’r ardal yn ennill enw da am gynnal digwyddiadau gwych ac mae cynnal Pencampwriaethau Optimist Ewrop yn bleidlais gadarn o hyder ym Mhwllheli. Bydd pawb a fydd yn dod yma yn rhyfeddu at yr etifeddiaeth sydd ganddon ni ym Mhwllheli ond mae’n stori mor wych, rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn ei hadrodd hi.
“Os na fydd busnesau lleol yn penderfynu bod yn rhan o ddigwyddiadau fel Pencampwriaethau Optimist Ewrop, yna ddylen ni ddim beirniadu busnesu o’r tu allan i'r ardal am gymryd mantais o’r sefyllfa ac arwain y ffordd. Rydyn ni’n falch o weld bod y trefnwyr mor frwd dros gynnwys ac ymglymu’r gymuned leol. 
“Drwy gynnwys grwpiau a busnesau lleol, bydd profiad y cystadleuwyr a’u cefnogwyr yn un cymaint gwell ac yn llawer mwy diffuant. Gall a dylai digwyddiad mor fawr â hwn adael gwaddol ar ei ôl. Ond dim ond os bydd pobl a busnesau yn rhan ohono fydd hynny’n digwydd.”
Ystyrir dosbarth hwylio iau’r cychod Optimist yn fan i cychwyn i feithrin darpar enillwyr rhyngwladol. Dyma lle cychwynnodd y Pencampwr mewn pedwar Olympiad, Syr Ben Ainslie, ar hwylio a hefyd Hannah Mills o Gaerdydd, enillydd medal arian cychod 470 yn Olympiad Llundain 2012– ill dau'n gyn hwylwyr cychod Optimist. Roedd dros 90% o hwylwyr Gemau Olympaidd Llundain 2012 wedi rasio cychod Optimist fel hwylwyr iau.
Gyda’i dafod yn ei foch, mae Geraint wedi gosod her i bawb sy’n ymweld â’r digwyddiad.
Ychwanegodd: “Gan fod 80% o bobl Pwllheli yn siaradwyr Cymraeg, bydden ni’n awgrymu i bawb geisio dysgu brawddeg neu ddwy yn Gymraeg, iaith fyw hynaf Ewrop, cyn dychwelyd adref!   
“Mae gan Bwllheli a’r ardal gyfagos gymaint i’w gynnig. Rydyn ni’n sicr y bydd pobl leol yn awyddus i roi croeso Cymreig twymgalon i’r hwylwyr ifanc.
Dywedodd Stephen Tudor, Cadeirydd Plas Heli: “Mae cynnal digwyddiad yn llawer ehangach na’r rasio yn unig, rydych chi am i’r cystadleuwyr a’u cefnogwyr adael gan deimlo bod ganddyn nhw gysylltiad agos â’r lleoliad ac y byddan nhw’n siarad amdano yn gadarnhaol am flynyddoedd i ddod. 
“Rydyn ni wrth ein bodd cael croesawu busnes lleol, Creison 'Jones o Gymru' fel partner swyddogol i’r digwyddiad a’r gobaith ydy mai nhw ydy’r cyntaf o blith llawer a fydd yn ymuno â ni.”

Up Coming Events - Cafe Bar

Next events or activities
19 Ebr

SeanDevlinLogoMae’r Caffi/bar ar agor am 12 tan 5pm Cinio dydd Sul 12-3pm

The Cafe/bar is open at 12 until 5pm -...

Read more

20 Ebr

SeanDevlinLogoMae'r Caffi Bar ar gau ddydd Llun yma. 
The Cafe Bar is closed this Monday.   


 

Read more

21 Ebr

SeanDevlnAtPlasHeli

Mae'r Caffi Bar ar gau ddydd Mawrth yma. 
The Cafe Bar is closed this Tuesday.   

 

 

 

Read more

22 Ebr

Sean Devlin Catering

Mae'r Caffi Bar ar gau ddydd Mercher yma. 
The Cafe Bar is closed this  Wednesday.  

 

 

Read more

23 Ebr

SeanDevlinLogoMae’r Caffi/bar ar agor am 12 tan 3pm ac yna o 6pm tan hwyr.   
The Cafe/bar is open at 12 until 3pm and
...

Read more

24 Ebr

Sean Devlin Catering

12 tan hwyr. 12 until late

 

 

Read more

Dolenni Cyflym Tudalennau Cyfleusterau Plas Heli

| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill  | Bar ac Arlwyo |

Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw


 

At Phone Sign Meaning Contact Web And MobilePlas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Arlwyo a Bar:       01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).

Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.

Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .

Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT

Cwmni Cofrestredig.  Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430