Mae enillydd pedair Pencampwriaeth Byd y Cychod Laser, Nick Thompson, wedi croesawu Pencampwriaethau Ewropeaidd hwylio cychod Optimist am y tro cyntaf i Gymru drwy ddweud mai "yr ornest hon oedd dechrau'r daith i mi".
Roedd Thompson, seren Tîm Prydain pan enillodd y teitl 'Optimist' Ewropeaidd yn Athen yn 1999, yn siarad wrth i hwylwyr cychod 'Optimist' ddechrau paratoi i ddod i Glwb Hwylio Pwllheli o 17 – 24 o Orffennaf eleni - y tro cyntaf i'r gystadleuaeth gael ei chynnal ar hyd y glannau ar dir mawr ym Mhrydain. Hwn fydd yr achlysur mawr cyntaf i gael ei gynnal yn Academi Hwylio Genedlaethol Cymru ym Mhlas Heli.
Cafodd Thompson, enillydd medal arian Cwpan y Byd ISAF yn Miami yn ddiweddar, ei ddewis yn Hwyliwr Ifanc y Flwyddyn am ei gamp hanesyddol yn 1999. Bu'n cystadlu mewn tair Pencampwriaeth Ewropeaidd, Byd a Chenedlaethol ar gychod Optimist cyn symud ymlaen i hwylio cychod 'Laser Radial' ac ennill Pencampariaeth Ieuenctid Ewrop yn 2002 ac yna'r fedal aur Laser ym Mhencampwriaeth ISAF y Byd yn 2004.
Ond does gan y gwr 28 mlwydd oed, sy'n ffefryn i arwain hwylwyr Prydain yn rasys Rio de Janeiro yn 2016, ddim amheuaeth beth sbardunodd ei yrfa hwylio.
Yn ôl Thompson: “Rasys Optimist Ewrop 1999 oedd y rhai pwysicaf roeddwn i erioed wedi cystadlu ynddyn nhw a doeddwn ddim wir yn gwybod beth i'w ddisgwyl. Roedd o'n brofiad eitha brawychus i gyrraedd a gweld yr holl gystadleuwyr o wahanol wledydd. Ond unwaith es i allan i rasio, roedd yn brofiad diguro. Mi ddechreuais fwynhau'r awyrgylch a chael andros o sbort yn cyfarfod pobl o bob cwr o'r byd.
“Roedd y rasio'n galed ond dwi'n cofio canolbwyntio'n llwyr ar un ras ar y tro ac yna, gydag un ras ar ôl, sylweddoli y gallwn i ennill. Anghofia'i byth mo'r croeso ges i gan fy nghydhwylwyr yn y tîm a'r rhai oedd yn rasio yn f'erbyn. Mi ddois i'r lan yn Bencampwr Ewrop.
“Dim ond ar ôl darllen erthygl fisoedd wedi hynny y gwnes i ddeall mai fi oedd y cyntaf o Brydain i ennill y gamp. Ond unwaith y gwnes i sylweddoli hynny, roeddwn i'n hynod falch o ennill dros fy ngwlad."
Bydd tua 250 o hwylwyr gorau'r Byd ar gychod Optimist o dros 45 gwlad yn teithio i Bwllheli ar gyfer Pencampwriaethau Ewrop 2015. Hwn fydd yr eildro i'r achlysur ddod i ynysoedd Prydain, gan iddyn nhw fod yn ninas Belfast yn 1993.
Roedd gan Nick Thompson hefyd gyngor i ieuenctid tîm Prydain fydd yn ceisio ailadrodd ei gamp yn y rasys yng NgogleddCymru.
Ychwanegod: “Mae cael cynrychioli eich gwlad wrth hwylio yn gamp ynddi ei hun ond mae cael cyfle i wneud hynny ar ein dyfroedd ein hunain yn gwneud y profiad yn un mwy arbennig fyth. Bydd yr awyrgylch yn drydanol a dylech ei gofleidio a'i fwynhau. Os gwnewch chi hynny, bydd y canlyniadau'n gofalu am eu hunain.
“Pan ddaw cyfle i chi ddod i hwylio ym Mhwllheli, gwnewch ymchwil am y llanw a bod yn barod am bopeth drwy gludo digon o offer ar y dŵr ar gyfer pob math o amgylchiadau ac am ddyddiau maith. A gofalwch beidio troi eich migwrn wrth lamu drwy'r twyni tywod, mae hynny wedi digwydd i sawl un cyn hyn!"
Mae Pencampwriaethau Optimist Ewrop ar fin cyhoeddi pwy fydd y partner mawr ar gyfer yr achlysur. I ganfod sut gallwch chithau fod ymhlith noddwyr Pencampwriaethau Optimist Ewrop, cysylltwch â marketing@optimisteuros2015.com
Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch ar y wefan: www.optimisteuros2015.com, clicio i'n hoffi ar Facebook ar www.facebook.com/optimisteuros2015 neu ein dilyn ar Twitter @optimisteuros15