Mewn seremoni wobrwyo yr wythnos diwethaf cyflwynodd RYA Cymru Wales wobr am Gyfraniad Arbennig i Stephen Tudor am ei waith yng Nghlwb Hwylio Pwllheli ac am ei gyfraniad anferth presonol i ddatblygiad yr Academi Hwylio Genedlaethol Cymru a Chanolfan Ddigwyddiadau newydd ym Mhwllheli.
Mae Stephen wedi bod yn aelod o Glwb Hwylio Pwllheli ers ei fod yn 8 oed ac mae wedi bod ar amryw o bwyllgorau ers ei ddyddiau cynnar, mae wedi bod yn Ysgrifennydd Anrhydeddus ers amser ac roedd yn Fôrlywydd rhwng 2012 a 2014.
Dros y pum mlynedd diwethaf mae Stephen wedi bod yn gyrru datblygiad yr academi hwylio newydd ym Mhwllheli. Mae’r gwaith o adeiladu’r adnoddau newydd sydd yn tynnu tua’i derfyn wedi denu cefnogaeth gwerth £8.9 miliwn oddi wrth Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd. Bydd yr adnoddau eiconic ar y lan cystal â goreuon y byd ac yn gosod Cymru ar y map fel un o brif gyrchfannau digwyddiadau hwylio Byd ac Ewropeaidd. Mae Stephen yn Gadeirydd Gwirfoddol ar fwrdd cyfarwyddwyr Plas Heli Cyf., y cwmni nid er elw fydd yn rhedeg yr academi. Fe wna hyn oll tra’n rhedeg busnes teuluol gwerthwyr tai llwyddiannus yn Llŷn.
Dywed Jane Butterworth, Cadeirydd Adran Iau Clwb Hwylio Pwllheli: “Mae Stephen wedi gweithio’n ddi-flino i’r clwb. Heb ei gyfraniad a’i ymrwymiad o ni fyddai Academi Hwylio Genedlaethol Cymru wedi dwyn ffrwyth ac mae ei waith caled yn haeddu cael ei gydnabod.”
Dywed Stphen ei hunan: “Derbyniaf y wobr fel cymeradwyaeth i waith tîm o bobl, nid dim ond fi, sydd wedi bod yn ganolog i ddatblygiad a sefydliad yr Academi.”
Dywed Steven Morgan, Prif weithredwr RYA Cymru Wales: “Mae Stephen Tudor yn enillydd hynod o haeddiannol o’n Gwobr am Gyfraniad Arbennig am ei ddyfalbarhad a’i angerdd yng Nghlwb Hewylio Pwllheli ac am helpu, gyda datblygiad yr Academi, i wneud Cymru yn un o’r mannau gorau yn y byd i fod yn hwylio.”
English (UK) 












Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT