Ymunwch â ni am sesiwn ryngweithiol sy’n un o gyfres a fydd yn ateb y cwestiynau hyn a llawer mwy (gobeithio!). Dewch i glywed ein cynlluniau am y dyfodol, dewch i rannu syniadau, dewch i fod yn rhan o ddyfodol digwyddiadau ym Mhwllheli!
Dyddiad: Dydd Iau, 25 Mehefin
Amser: Unai 7.30 – 8.30yb neu 2.30 – 3.30yh
Lle: Clwb Hwylio Pwllheli
Byddwn yn darparu lluniaeth ysgafn.
Rydym yn deall bod perchnogion busnes yn bobl brysur iawn ac felly mae gennym ddewis o ddwy sesiwn i chi ar adegau gwahanol. Gallwch ymuno â ni cyn gwaith rhwng 7.30 ac 8.30yb neu os yw'r diwrnod yn arafu i chi ganol y prynhawn dewch i''r sesiwn 2.30 - 3.30yh. Dim ond clicio ar eich dewis isod wrth gofrestru sydd angen.
Mae’r sesiwn am ddim ond mae’n rhaid cofrestru ymlaen llaw trwy glicio ar y linc isod, ein hebostio ni ar gyda’ch enw, enw’ch cwmni, rhif ffôn, chyfeiriad e-bost ac amser y sesiwn neu ein ffonio ar 01758 613 343. Cysylltwch â ni hefyd os na allwch chi ddod ond yr hoffech chi i ni gadw mewn cysylltiad â chi ynglyn â’r cyfleoedd.
Beth sydd yn angenrheidiol mewn ystafell gyfarfod i chi? Digon o le parcio? Y dechnoleg ddiweddaraf? Lluniaeth o’r radd flaenaf? Croeso cynnes? Gall Plas Heli gynnig y rhain i gyd a mwy. Cliciwch yma os am fwy o wybodaeth am rentu un o ystafelloedd Plas Heli.
Gyda nifer o drigolion lleol ac ymwelwyr yn pasio trwy ddrysau Plas Heli yn wythnosol mae yma gyfleoedd gwych i farchnata a hyrwyddo eich busnes. Bydd mwy o wybodaeth am gyfleoedd o’r fath i’w gael yma’n fuan.
Os oes gennych chi a'ch busnes ddiddordeb Dod ar Daith efo ni trwy fod yn noddwyr neu bartneriaid cysylltwch â ni neu ffoniwch 01758 613 343
| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill | Bar ac Arlwyo |
Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw
Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT
Arlwyo a Bar: 01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).
Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.
Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .
Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT
Cwmni Cofrestredig. Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430