This Pwllheli weather forecast is generated by the Met Office Weather Widget
Hoffech chi drio hwylio, rhwyfo, canwio neu geufadu? Disgrifiwch y disgrifiad isod o'r gwahanol weithgareddau, cliciwch yma, llenwi'r ffurflen ac fe gysylltwch yn ôl efo chi'n fuan i gadarnhau efo chi.
Hwylio am dri chwarter awr efo hyffordwr cymwysiedig – deg munud o hyfforddiant a rhwng ugain munud a hannewr awr ar y dwr. Bydd angen i chi ddod a dillad i newid rhag ofn gwlychu, esgidiau fel trainers gyda gwadnau meddal ac os oes gennych ryw fath o wisg(top) dal dwr, gorau oll.
Fe fydd gennym ni siacedi achub i chi wisgo.
Mae gennym 2 Gwch Celtaidd sy’n dal 5 o bobl yr un (1 cox sydd yn llywio’r cwch a 4 rhwyfwr)
Mae’r cychod hirion wedi eu cynllunio’n arbennig i fynd ar y môr. Nid oes angen i chi allu nofio, ond rhaid i chi adael i ni wybod! Nid oes angen unrhyw brofiad o rwyfo, byddwch yn mynd allan efo cox a 2 rwyfwr profiadol ar gyfer eich sesiwn. Gan fod rhwyfo’n weithgaredd aerobig ‘low impact’ mae’n ffordd dda iawn o ddod yn ffit.
Dylech wisgo fel tase 'chi’n mynd am dro ar feic - dillad cyfforddus/ cot law ysgafn a siwmper rhag oeri/ hen trainers neu esgidiau ‘wet suit’/ het haul neu het gynnes yn ôl y tywydd/ menig hwylio neu seiclo( i arbed swigod)
4 x seswin yn cychwyn am 10yb wedyn fesul yr awr. Yn addas i bawb 16 oed+.
Mae’r sesiynau blasu yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr fyddai’n hoffi rhoi cynnig ar badlo cyn ymaelodi a Chlwb Antur Dwyfor. Bydd y sesiwn awr yn cael ei arwain gan hyfforddwyr cymwysiedig, profiadol a fydd yn mynd a chi am daith ar y dwr gan roi cyflwyniad cyffredinol i chi o’r gamp. Ni does angen unrhyw brofiad blaenorol, offer neu sgiliau arbennig i gymeryd rhan, mae’r sesiynau yn addas i bawb dros 10 oed. Mae’r sesiwn yn gyflwyniad perffaith i bobol sydd heb unrhyw profiad.
6 person i bob sesiwn.
Diolch am eich cais archebu ystafell. Byddwch yn derbyn e-bost yn rhoi manylion eich cais archebu ac e-bost dilynol pan fyddwn wedi prosesu cais cyn bo hir .
just a dummy

Croeso i Gwyl Fwyd Tir a Mor Llyn sydd gyda chefndir o dros ddegawd o esblygu i gyrraedd ble ‘rydym heddiw.
Gyda lleoliad hyfryd gerbron y dwr i lawr yn yr Hafan Pwllheli ar ochr ddeheuol penrhyn Llyn,mae maes ein pabell mewn man breintiedig ac arbennig iawn.
Mae'r wyl flwyddyn yma ar benwythnos 23 a 24 o Fai. Ar gynnig bydd gennym bwydydd a diod o bob math gan gynnwys cigoedd, ffrwythau, crancod, llysiau, cwrw, caws, gwin, bara, fferins,pysgod ac yn y blaen – yn wir rhywbeth at ddant pawb!
Diolch am ymweld a’r safle We.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld yn yr Wyl.Siwrna saff.
Mynediad - Oedolion £3.00 Plant am ddim ! Parcio am ddim!
Ariennir gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy AHNE Llŷn




| Angorfeydd yn Plas Heli | Gwersylla yn Plas Heli | Llogi Ystafell yn Plas Heli | Cyfleusterau Eraill | Bar ac Arlwyo |
Mae Plas Heli Cyf yn Gwmni Dosbarthu Menter Gymunedol, Dielw
Plas Heli Cyf. Glan y Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT
Arlwyo a Bar: 01758 614 442
(dim ond ymholiadau arlwyo i'r rhif ffôn yma os gwelwch yn dda).
Sylwch nad oes staff yn y swyddfa ac y byddai eich ymholiadau'n cael eu trin yn fwy effeithlon pe baech yn anfon e-bost i'r adran briodol.
Defnyddiwch y ddolen briodol o'r tudalen 'Cysylltwch a Ni' .
Plas Heli Cyf Glany Don, Pwllheli, Gwynedd LL53 5YT
Cwmni Cofrestredig. Rhif: 08082514
Rhif TAW: GB 164061430